Rhwyga'r tew gymylau duon, Guddiant wedd dy wyneb gwiw; Nid oes bleser a'm dyddana, Ond yn unig ti fy Nuw; Môr di-drai o bob trugaredd, Ydyw'r iachawdwriaeth lawn, Lifodd allan mewn bendithion, Ar Galfaria un prydnawn. [NW][ *] Ffrydiau tawel byw rhedegog, O dan riniog tŷ fy Nuw, Sydd yn llanw ac yn llifo O fendithion o bob rhyw: Dyfroedd gloew fel y grisial, I olchi'r euog, nerthu'r gwan. Ac a gana'r Ethiop duaf Fel yr eira yn y man. [NW] O! am yfed yma beunydd Ffrydiau'r iachawdwriaeth fawr, Nes fy hollol ddisychedu Am siomedig bethau'r llawr; Byw dan ddysgwyl am fy Arglwydd, Bod pan ddelo'n effro iawn, I agoryd iddo'n ebrwydd, A mwynhau ei ddelw'n llawn. [AG] O na chawn i dreulio ' nyddiau 'N fywyd o ddyrchafu'r gwaed! Llechu o dan gysgod f'Arglwydd, Byw a marw wrth ei draed; Codi'r groes a'i chyfri'n goron, Am mai croes fy Mhrynwr yw, Ymddifyru yn ei Berson, A'i addoli Ef, fy Nuw. [AG] Ydyw'r :: Ydyw'th gloew :: gloywon I olchi : Olcha nerthu :: nertha hollol :: nghwbwl :: nghwbl - - - - -1,(2),3. O! rhwyga'r tew gymylau duon Sy'n cuddio gwedd dy ŷyneb gwiw; Nid oes bleser a'm diddana Ond yn unig Ti, fy Nuw: Môr di-drai a bob trugaredd Yw'r iachawdwriaeth fawr ei dawn A lanwodd ac a lifodd allan Ar Galfaria un prynhawn. [NW] O! am yfed yma beunydd O ffrydiau'r iachawdwriaeth fawr, Nes fy nghwbl ddisychedu Am ddarfodedig bethau'r llawr; Byw dan ddysgwyl am fy Arglwydd, Bod pan ddelo'n effro iawn, I agoryd iddo'n ebrwydd, A mwynhau ei ddelw'n llawn. [AG] Ffrydiau tawel byw rhedegog, O dan riniog tŷ fy Nuw, Sydd yn llanw ac yn llifo O fendithion o bob rhyw: Dyfroedd gloyw fel y grisial, I olchi'r euog, nerthu'r gwan, Ac a ganna'r Ethiop duaf Fel yr eira yn y man. [NW] ganna :: gànu
[NW]: Nathaniel Williams 1742-1826
Tonau:
gwelir: |
Rend the thick black clouds, They hide the countenance of thy worthy face; There is no pleasure which comforts me, But only thee my God; A sea unebbing of every mercy, Is the full salvation, Which flowed and which streamed out, On Calvary one afternoon. Quiet, living streams running, From under the threshold of my God's house, Which are flooding and streaming From blessings of every kind: Shining waters like the crystal, To wash the guilty, strengthen the weak. And which will bleach the blackest Ethiopian Like the snow soon. Oh to drink here daily, Streams of the great salvation, Until I am wholly refreshed From the passing things of earth below; To live waiting for my Lord, To be when he comes very awake, To open to him speedily, And to enjoy his image fully. O that I may spend my days As a life of exalting the blood! Lurking under the shadow of my Lord, Living and dying at his feet; Lifting the cross and counting it as a crown, Since my Redeemer's cross it is, To delight in his Person, And worship Him, my God. Is the :: Is thy :: To wash :: Wash! to strengthen :: strengthen! :: :: - - - - - Oh rend the thick black clouds, Which hide the countenance of thy worthy face; The is no pleasure which entertains me But Thou alone, my God: An unebbing sea of every mercy Is the salvation of great gift Which flooded and which streamed out On Calvary one afternoon. Oh to drink here daily From the streams of the great salvation, Until I completely lose my thirst For the passing things of the earth; To live while waiting for my Lord, To be when he comes very awake, To open to him speedily, And enjoy his image fully. Quiet, living streams running, From under the threshold of my God's house, Are flooding and streaming With blessings of every kind: Clear waters like the crystal, To wash the guilty, strengthen the weak, And which will bleach the blackest Ethiopian Like the snow soon. :: tr. 2009,11 Richard B Gillion |
|